SL(5)285 - Rheoliadau Dosbarthu Carcasau a Hysbysu eu Prisiau (Cymru) 2018

Cefndir a Diben

Cynhaliodd y Comisiwn Ewropeaidd adolygiad ffurfiol o reolau presennol yr UE sy'n gorchymyn categoreiddio a dosbarthu anifeiliaid a gyflwynir i'w lladd yn erbyn safonau cyffredin Ewropeaidd er mwyn eu gwneud yn fwy tryloyw.

O ganlyniad, gweithredwyd Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn 2017/1182 a Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn 2017/1184 yn ategu Rheoliad (UE) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran graddfeydd yr Undeb ar gyfer dosbarthu carcasau eidion, moch a defaid ac o ran adrodd am brisiau marchnad rhai categorïau o garcasau ac anifeiliaid byw.

Cynhwyswyd y gyfundrefn ddosbarthu a gorfodi flaenorol yn Rheoliadau Dosbarthu Carcasau Eidion a Moch (Cymru) 2011. Mae'r Rheoliadau hynny yn cael eu diddymu a'u disodli i gyd-fynd â'r newidiadau i gyfundrefn yr UE.

Y weithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Nodwyd dau bwynt i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2 (v) - bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

O dan reoliad 19(b), gall swyddogion awdurdodedig, wrth arfer pwerau mynediad:

-      gael mynediad i gyfrifiaduron,

-      archwilio cyfrifiaduron, a

-      gwirio gweithrediad cyfrifiaduron,

yn yr eiddo a gaiff ei archwilio, lle mae'r cyfrifiaduron yn cael eu defnyddio mewn cysylltiad â chofnodion y mae'n ofynnol eu cadw o dan y Rheoliadau.

Nid yw'n glir i ni beth yw ystyr "gwirio gweithrediad" cyfrifiadur. Gofynnwn i Lywodraeth Cymru esbonio ystyr "gwirio gweithrediad" cyfrifiadur trwy: (a) ddarparu enghreifftiau o'r hyn mae'n ei gynnwys, a (b) esbonio'r hyn y gellir ei gyflawni drwy wirio gweithrediad cyfrifiadur na ellir ei gyflawni drwy gael mynediad i'r cyfrifiadur ac archwilio'r cyfrifiadur.

Rydym o'r farn ei bod yn hanfodol y caiff pwerau mynediad eu drafftio heb ddarpariaethau diangen neu aneglur, yn enwedig pan y gellir arfer y pwerau mynediad mewn perthynas â chartref unigolyn.

 

2. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae'r Rheoliadau'n dweud y gall Gweinidogion Cymru roi trwyddedau er mwyn dosbarthu carcasau buchol. O dan reoliad 8, gellir rhoi trwydded ar gyfer dosbarthiad gweledol. O dan reoliad 9, gellir rhoi trwydded ar gyfer defnyddio offer graddio awtomataidd i ddosbarthu. Ymddengys i ni fod rheoliadau 8 a 9 yn ymwneud â dau ddull penodol o ddosbarthu carcasau buchol.

Mae rheoliad 29(1) yn dweud ei bod yn drosedd pe bai "dosbarthiad" yn cael ei gynnal heb drwydded a ganiatawyd o dan reoliad 8. 

Mae rheoliad 29(2) yn dweud ei bod yn drosedd "os ymgymerir ... dosbarthu ... drwy ddefnyddio offer graddio awtomataidd" heb drwydded a ganiatawyd o dan reoliad 9.

Felly mae'n ymddangos y bwriedir i reoliad 29(1) ymdrin â dosbarthiad gweledol a bwriad rheoliad 29(2) yw ymdrin â dosbarthiad drwy offer graddio awtomataidd. Fodd bynnag, er bod rheoliad 29(2) wedi'i gyfyngu'n benodol i ddosbarthu gan offer awtomataidd, ymddengys bod rheoliad 29(1), ar yr wyneb, yn berthnasol i bob dosbarthiad.

Gofynnwn i Lywodraeth Cymru a ddylai rheoliad 29(1) gyfeirio at "ddosbarthiad gweledol". Mae rheoliad 29 yn creu troseddau, felly mae angen eglurder llwyr ynghylch ehangder y drosedd.

Rhinweddau: craffu

Nodwyd dau bwynt i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

O dan reoliad 10, gall Gweinidogion Cymru benodi person i ystyried apelau yn erbyn penderfyniadau Gweinidogion Cymru. Er enghraifft, os yw Gweinidogion Cymru yn gwrthod trwydded i X o dan reoliad 8 oherwydd bod Gweinidogion Cymru o'r farn nad yw X yn addas ac yn briodol i gael trwydded, gall X apelio i'r person a benodir gan Weinidogion Cymru.

Nodwn nad oes unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau na'r Memorandwm Esboniadol at annibyniaeth y person sy'n ystyried apelau o'r fath. Mae materion megis cael gwrthod trwydded neu gael trwydded wedi ei dirymu yn faterion difrifol sy'n effeithio ar fywoliaeth pobl. Dylai fod dull teg ac annibynnol ar gyfer penderfyniadau apêl a wneir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â thrwyddedau.

Nodwn mai'r Asiantaeth Taliadau Gwledig sy'n gyfrifol am orfodi'r Rheoliadau, ond rydym yn tybio nad yw ystyried apelau yn erbyn penderfyniadau Gweinidogion Cymru yn golygu gorfodi.

Byddem yn croesawu eglurhad gan Lywodraeth Cymru ynghylch y weithdrefn sy'n berthnasol i apelau o dan reoliad 10 o'r Rheoliadau hyn.

 

 

 

 

2. Rheol Sefydlog 21.3(iv) – mae'n rhoi deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar waith yn amhriodol

Dylai'r gyfundrefn ddiweddaraf a gynhwysir yn y Rheoliadau hyn fod wedi ei gweithredu gan Aelod-wladwriaethau erbyn 11 Gorffennaf 2018. Nodwn fod y dyddiad terfynol wedi bod ac rydym yn croesawu tryloywder Llywodraeth Cymru wrth nodi hyn yn y Memorandwm Esboniadol.

Fodd bynnag, ymddengys fod y Memorandwm Esboniadol yn dweud, wrth gydymffurfio â'r gyfundrefn gyfredol, bod y diwydiant, mewn gwirionedd, eisoes wedi bod yn cydymffurfio â'r gyfundrefn newydd, ddiweddaraf hon. Er bod hynny'n ymddangos yn wir am bron bob un o ofynion y gyfundrefn newydd, nid yw'n glir a yw'r diwydiant eisoes yn cydymffurfio â'r gofyniad newydd i gynnwys y "categori pwysau marw U4" mewn dosbarthiadau buchol.

Gofynnwn i Lywodraeth Cymru gadarnhau a yw cyflenwyr presennol wedi cydymffurfio â'r gofyniad categori pwysau marw newydd U4 hwn o dan y gyfundrefn gyfredol?

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhan o "ddeddfwriaeth ddomestig sy'n deillio o'r UE" o dan adran 2 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, felly bydd y Rheoliadau hyn yn cael eu cadw fel cyfraith ddomestig a byddant yn parhau i fod mewn grym yng Nghymru ar ôl y diwrnod ymadael.

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb y llywodraeth i'r pwyntiau craffu technegol a rhinweddau sy'n codi yn yr adroddiad hwn.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

4 Rhagfyr 2018